Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol wedi ymrwymo i gynnig ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfathrebu ysgrifenedig
Gallwch ysgrifennu atom yn y Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost.
Os ydych chi'n teimlo bod eich ymholiad yn un brys, gallwch ein ffonio ni ar 020 8253 0800 a bydd cydweithiwr yn eich cynorthwyo.
Rydym ar agor 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd galwadau ffôn yn cael eu cynnig yn Saesneg. Os hoffech siarad yn y Gymraeg, fe gewch chi’r dewis o barhau â'r alwad yn Saesneg neu ysgrifennu atom yn y Gymraeg.
Codi pryderon a chwynion
Gallwch godi pryder am weithiwr deintyddol proffesiynol neu wneud cwyn i ni yn y Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost, a byddwn yn eich ateb yn y Gymraeg o fewn yr un amserlen â phe baech wedi ysgrifennu atom yn y Saesneg.
Cyfarfodydd
Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd sy'n bwriadu mynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru siarad yn Gymraeg (gofynnwn i chi roi rhybudd ymlaen llaw fel y gallwn drefnu cyfieithydd ar y pryd).
Bydd hysbysiadau o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru yn ddwyieithog, ynghyd ag unrhyw agendâu neu gofnodion.
Hunaniaeth gorfforaethol
Pan fyddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg byddwn hefyd yn defnyddio fersiynau Cymraeg ein logo, hunaniaeth gorfforaethol a'n papur pennawd.
Cyhoeddiadau
Mae llawer o'n cyhoeddiadau i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Bydd safonau a chanllawiau proffesiynol yn cael eu cyfieithu ar gais.
Cynhyrchir ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon yn ddwyieithog ac maent ar gael yma.
Mae'r cyhoeddiadau canlynol ar gael yn Gymraeg ar gais:
- Taflen 'Pwy sy'n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
- Taflen 'Mynd dramor am eich gofal deintyddol
- ‘Ystyried gwynnu dannedd?'
- ‘Taflen 'Cyngor i'r rhai sy'n cyflogi gweithwyr deintyddol proffesiynol
Y wasg a hysbysebu
Byddwn yn cyhoeddi datganiadau dwyieithog i’r wasg ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru. Darperir cyfieithiadau ar gais. Bydd hysbysebion a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog, yn ogystal â hysbysebion cylchgronau
a phapurau newydd.
Os oes unrhyw un yn cysylltu â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg, byddwn yn ateb yn y Gymraeg (os oes angen ateb). Hefyd, pan fyddwn yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac yn postio cynnwys sy'n ymwneud â Chymru yn unig,
byddwn yn cyhoeddi'r neges yn y Gymraeg.
Gwrandawiadau
Mae gennych chi'r hawl i godi pryder am berson cofrestredig yn y Gymraeg.
Os bydd hyn yn arwain at wrandawiad, gallwch roi tystiolaeth yn y Gymraeg. Pan fyddwn yn cael gwybod bod tyst yn dymuno rhoi tystiolaeth yn y Gymraeg, byddwn yn ei gynorthwyo i wneud hynny drwy ddefnyddio cyfieithwyr â chymwysterau addas. Mae
angen rhybudd ymlaen llaw arnom i allu gwneud hyn yn effeithiol.
Safonau'r laith Gymraeg
Mae Safonau'r Gymraeg, a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn creu fframwaith cyfreithiol sy'n gwarantu'r hawl i unigolion yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, fe wnaeth y Mesur greu rôl
Comisiynydd y Gymraeg, sydd â'r dasg o oruchwylio a sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau hyn.
Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein gwasanaethau Cymraeg yn unol â'r hysbysiad cydymffurfio gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd bodloni'r gofynion hyn yn ein galluogi i wella lefel y gwasanaethau Cymraeg y gall aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru
ddisgwyl eu cael gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Fel rhan o'n hymrwymiad i Safonau'r Gymraeg, ein nod yw dyrannu lefel resymol a chymesur o adnoddau gweithredol seiliedig ar wybodaeth er mwyn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â chynorthwyo ein staff i gyflawni'r amcan hwn.
Wrth fodloni'r safonau, rydym hefyd yn ystyried ein rhwymedigaethau deddfwriaethol ehangach, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u nodi yn Neddf Deintyddion 1984.
Er nad yw'r safonau yn berthnasol i bob agwedd ar ein gwaith, lle maent yn berthnasol rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Cwynion ac adborth am ein gwasanaeth
Os hoffech chi roi unrhyw adborth i ni a/neu os oes gennych unrhyw bryderon am ein darpariaeth Gymraeg neu ein cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Os hoffech chi wybod sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.